P-05-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy’n astudio meddygaeth fel ail radd, Gohebiaeth  – Deisebydd at y Pwyllgor, 24.09.21

 

Annywl Pwyllgor Deisebau,

 

Mae’r ddogfen yn crynhoi y sefyllfa bresennol yn dda iawn ac yn llawn. Er hyn, nid yw’r ddogfen yn ystyried budd cynnig benthyciad neu grant ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd 1-4 meddygaeth fel ail radd. Yn yr ystr hyn, mae’r ddogfen yn arwynebol.

Mae gan Gymru ddifyg doctoriaid. Mae gan Gymru ddifyg graddedigion meddygaeth sy’n dod yn ol i Gymru ar ol astudio tu allan i Gymru. O ganlyniad, mae doctoriaid yn y GIG dan fwy o straen nag y dylent fod ac yn aml mae doctoriad yn gorffen bob dyddd yn y gwaith yn hwyr bob dydd oherwydd diffyg doctoriaid. Mae hyn wedi cyfrannu at amseroedd aros uwch ar gyfer llawdriniaethau dewisol ac amseroedd aros hir at gyfer gweld meddyg teulu. Mae angen fwy o gefnogaeth i ddoctoriaid y dyfodol yng Nghymru.

Mae gradd 2:1 neu well yn ofynnol ar gyfer pob cwrs meddygeth fel ail radd ac mae’r nifer fawr o ddoctoriaid presennol yng Nghymru yn dod i’r gweithle drwy’r llwybr yma. Mae’r llwybr hon yn llwybr a gydnabyddir

Mae Plaid Llafur Cymru yngyd a pheidiau eraill yn y Senedd yn credu yn gryf mewn cydraddoldeb cyfleoedd (“equality of opportunity”). Heb gynnig cefnogaeth dros y 4 neu 5 mlynedd o astudiaeth meddygaeth i fyfyrwyr ail-radd, nid oes cydraddoldeb cyfleoedd i ddoctoriaid y dyfodol. Mae nifer o fyfyrwyr yn gweithio er mwyn cefnogi eu hunain ac yn ei chael yn anodd iawn i dalu’r costau dysgu. Mae eraill yn gorfod gadael y cwrs oherwydd diffyg arian ac llawer fawr yn methu fforddio ystyried yr opsiwn o feddygaeth fel ail-radd o gwbl. Mae hyd y cwrs hefyd yn ei wneud yn anodd i myfyrwyr fforddio’r gost a chasglu digon o arian i dalu amdano. Mae’r straen yma ar ben y straen uwch (gan gynnwys y straen ar iechyd meddwl) sydd yn gwynebu myfyrwyr meddygaeth ar gwrs anodd a phrysur tu hwnt. Mae’n anheg fod myfyrwyr meddygaeth yn cael eu cosbi gan fod ganddynt radd yn barod.

 

Diolch yn fawr am eich ystyriaeth gofalus,